Carrie Jones a Mared Griffiths


Episode Artwork
1.0x
0% played 00:00 00:00
Nov 27 2024 40 mins   3

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n cael cwmni Carrie Jones a Mared Griffiths o garfan Cymru cyn dwy gêm enfawr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn gemau ail-gyfle Ewro 2025. Cawn wybod pam fod Carrie wedi dewis symud i chwarae i Sweden a hithau dim ond yn 21 oed, tra bod Mared yn adrodd ei thaith o Drawsfynydd i Manchester United - a sut mai "gweithio fel ci" yn hel defaid ar y fferm deuluol oedd ei ymarfer ffitrwydd.

Hefyd, fydd Caerdydd yn cynnig y swydd rheolwr i Steve Cooper? Nid am y tro cyntaf, mae yna wahaniaeth barn rhwng yr hogia...