Dathliadau Dulyn wrth i Gymru yn cyrraedd Y Swistir


Episode Artwork
1.0x
0% played 00:00 00:00
Dec 05 2024 46 mins   2

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2025. Roedd Ows yn ei chanol hi yn Nulyn yn gwylio tîm Rhian Wilkinson yn curo Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, ac yn fwy na hapus i ymuno yn y dathliadau yng nghanol y ddinas tan oriau man y bore.

Roedd 'na fwy o ddathlu ar y Cae Ras hefyd lle welodd Dyl fuddugoliaeth arall i Wrecsam, ac mae'r tri yn ddigon bodlon eu byd hefyd wrth weld cychwyn arbennig Arne Slot yn parhau gyda Lerpwl.