Wyt ti 'di pwdu?!


Episode Artwork
1.0x
0% played 00:00 00:00
Jan 09 2025 48 mins   1

Oes 'na gyfle a sioc yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr i Gaerdydd ac Abertawe? Fe all yr Adar Gleision anghofio am y pwysau o geisio osgoi disgyn i'r Adran Gyntaf wrth iddyn nhw deithio Sheffield United, ac mi fydd yr Elyrch yn edrych i fanteisio ar y blerwch sydd yn Southampton ar hyn o bryd.

Mae rheolwr Arsenal Mikel Arteta yn ei chael hi am ei sylwadau am safon y bêl yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Newcastle - gêm mae'n debyg sydd wedi ysgogi tröedigaeth i Malcolm "Toon Army" Allen.