Daf James


Episode Artwork
1.0x
0% played 00:00 00:00
Jan 26 2025 63 mins   6

Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George.
Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu.
Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti.

Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw “Y mwyaf authentic ych chi – mae’r stori yn mynd yn bellach, gonestrwydd mae cynulleidfa eisiau.”

Mae'n hoff iawn o'r grŵp Eden a Caryl Parry Jones, ac yn credu eu bod yn gwneud gwaith ffantastig yn gymdeithasol o ran iechyd meddwl, a'u bod wedi esblygu gydag amser, rhaid gwneud os ti’n artist.