Creu ymdeimlad o berthyn


Episode Artwork
1.0x
0% played 00:00 00:00
Feb 19 2023 9 mins   1
Mae perthyn yn deimlad o hapusrwydd a theimlad eich bod yn cael eich derbyn yn eich cynefin. Mae'n bwysig i ddatblygiad plant ac mae'n llwybr datblygiadol arall yng Nghwricwlwm Cymru.

Mae Hannah Rowley, dirprwy arweinydd Cylch Meithrin Nant Dyrys yn Nhreorci, yn ein cyflwyno i berthyn o fewn y Cylch Meithrin. Cawn glywed sut mae teithiau lleol i siopau trin gwallt, siopau elusen ac i’r gymuned ehangach yn rhai o’r ffyrdd y mae Hannah a’r tîm yn eu defnyddio i greu ymdeimlad o berthyn i blant.