Oct 27 2024 18 mins 3
Mae’r bennod hon wedi’i recordio yn un o 15 digwyddiad fferm arddangos Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd drwy gydol mis Medi 2024. Rydym yn Fferm Lower House ger Llandrindod gyda Robert a Jessica Lyon. Maent yn ffermio 146 hectar ac yn rhedeg menter gymysg, gan wyna 900 o famogiaid yn ogystal â 32,000 o frwyliaid. Maen nhw hefyd yn gorffen 150 o heffrod croes Belgian Blue yn flynyddol.
Mae fferm Lower House wedi treialu cynnwys pys a ffa a brynwyd i mewn yn y dogn mamogiaid beichiog y gaeaf diwethaf er mwyn cynyddu gwytnwch a lleihau ôl troed carbon ei fferm, mae Robert eisiau tyfu cymaint o’r porthiant ar y fferm â phosibl. Maen't wedi cychwyn ar brosiect ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio i werthuso sut y gallai pys a ffa ei helpu i gyrraedd y nod hwnnw. Gwrandewch i glywed y canfyddiadau!